Skip to content

Helpu ffermwyr yng Nghymru i baratoi at ddyfodol cynaliadwy a llewyrchus

Mae'r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn fenter strategol bwysig, wedi ei ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru. Mae'n cynnwys tri phrosiect - yn canolbwyntio ar iechyd anifeiliaid, geneteg a safon cig - er mwyn sicrhau fod ffermio defaid a gwartheg eidion yng Nghymru cwrdd â gofynion cwsmeriaid y dyfodol, ac y bydd yn broffidiol a chynaladwy.

HCC Trade

Os y’ch chi’n fanwerthwr neu’n gigydd, yn gweithio mewn addysg neu’r diwydiant bwyd, mae gennym adnoddau i’ch helpu

Hybu Cig Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru. 

Rydym yn gweithio gyda phob sector o'r diwydiant cig coch yng Nghymru, o'r ffermwyr i'r gwerthwyr, i ddatblygu'r diwydiant a marchnadoedd proffidiol i Gig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI a phorc o Gymru.